Ein Tîm

Rydym i gyd yn ddisgyblion blwyddyn 10-13 o Ysgol Penweddig, Aberystwyth. Rydym yn ymroddedig i'n gwaith yn yr her hon ac yn gwybod pa mor anodd gall fod i dyfu i fyny gyda straen gwaith ysgol wedi'i bentyrru arnom. Hefyd, rydyn ni i gyd yn siarad Cymraeg ac wedi sylwi nad oes llawer o adnoddau a gweithgareddau Cymraeg ar gael i blant ifanc. Gan ein bod yn angerddol am ein hiaith, rydym wedi penderfynu creu ein dyddiadur mewn dwy iaith i sicrhau bod pawb o'n gwlad yn teimlo mor gynwysedig â phosibl.

cyCymraeg